Siarter Gyflogaeth AUT/UCM/PCÔR ar gyfer Ôl-Raddedigion sy'n Addysgu

Ar gyfer staff academaidd ôl-radd

Mae myfyrwyr ôl-radd sy'n cael eu cyflogi i wneud gwaith academaidd yn ymgymryd â gweithgaredd proffesiynol sy'n agwedd o'u datblygiad proffesiynol parhaus. Maent yn aelodau staff a rhaid eu hintegreiddio i mewn i fywyd cymdeithasol ac academaidd adrannau fel cydweithwyr ac aelodau o'r gymuned broffesiynol. Mae gan bob myfyrwyr ôl-radd sy'n cael eu cyflogi i ymgymryd â gwaith academaidd yr hawl i:

  • Cyfleoedd cyfartal o ran cyflogaeth a threfniannau penodi teg
    • Dylid hysbysebu pob swydd yn ddigon eang i sicrhau fod pawb sydd â'r cymwysterau priodol yn ymwybodol o'r cyfleoedd. Rhaid penodi yn unol â meini prawf clir nad ydynt yn camwahaniaethu, ac yn unol â pholisïau cyfle cyfartal ac arferion da, gan gynnwys casglu data at ddibenion monitro.
  • Llythyr penodiad
  • Disgrifiad swydd
  • Datganiad ysgrifenedig o delerau ac amodau cyflogaeth
    • Dylai fod gan ôl-raddedigion syniad eglur ynglyn â'u hawliau a'u cyfrifoldebau fel aelodau staff. Gyda'i gilydd mae'r llythyr, y disgrifiad swydd a'r datganiad yn cynnwys y rhan fwyaf o'r cytundeb cyflogaeth. Dylent osod allan y cyfrifoldebau gwaith, oriau gwaith, amcangyfrif o'r amser a bennir ar gyfer gwahanol gyfrifoldebau, graddfa gyflog, pa mor aml y telir cyflog, hyd y cytundeb, yr aelod staff sy'n gyfrifol am oruchwylio'r gwaith, a manylion cyflogaeth sydd eu hangen dan y gyfraith.
  • Bod yn perthyn i undeb llafur o'ch dewis
    • Cael eich cynrychioli a chyfranogi yng ngweithgareddau'r undeb gydnabyddedig
  • Hyfforddiant
    • Rhaglen gyflwyno a hyfforddiant digonol fel sy'n briodol ar gyfer y gwaith a wneir.
  • Cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus
    • Mynediad i'r un rhaglenni datblygiad a hyffordiant sydd ar gael i staff academaidd arall.
  • Graddfa gyflog deg
    • Tâl sy'n gyfran o'r raddfa gyflog a delir am waith academaidd, ar bwynt graddfa sy'n gyson â chymwysterau a phrofiad, gyda chodiadau cyflog blynyddol.
  • Tâl am bob cyfrifoldeb ac oriau gwaith
    • Dylai hyn gynnwys oriau addysgu, paratoi, marcio, mynychu cyfarfodydd a darlithoedd a.y.b., oriau swyddfa, cyfathrebu â myfyrwyr, goruchwylio arholiadau, cyfrifoldebau gweinyddol, a hyfforddiant sy’n gysylltiedig â'r swydd.
  • Yr un lefel o fynediad i adnoddau, cyfleusterau a chefnogaeth gan y brifysgol ag aelodau staff academaidd eraill ac yn ddigonol i ddiwallu cyfrifoldebau'r swydd, gan gynnwys mynediad i'r llyfrgell, cyfrifiaduron, clwyledol, parcio ceir, llun-gopïo, e-bost, ffôn, defnhyddiau 'sgrifennu, cyfleusterau cymdeithasol, technegol ac ysgrifenyddol ac i swyddfa neu ddesg a mannau cyffredin sydd ar gael i staff.
  • Cydraddoldeb o ran amodau cyflogaeth gyda staff academaidd eriall.
  • Trefniannau eglir a rheolaidd ar gyfer asesu ac adolygu
  • Cyfleoedd i gyfranogi mewn cyfarfodydd staff a digwyddiadau eraill
  • Cynrychiolaeth ffurfiol ar bwyllgorau adrannol a phrifysgol priodol
  • Lwfans ar gyfer amser teithio a threuliau ar gyfer teithio fel rhan o ddyletswyddau
  • Yr un trefniannau cwyno ar gyfer ymdrin â phryderon cyflogaeth, a staff academaidd eraill

Arweiniad i Arferion Gorau

Ar gyfer cyflogi myfyrwyr ôl-radd fel athrawon

Dylai adrannau a sefyldiadau sy'n cyflogi ôl-raddedigion ddangos parch teilwng i waith ymchwil a chwrs personol y myfyrwyr sy'n addysgu. Dylai adrannau fonitro baich gwaith dysgu er mwyn sicrhau nad yw yn rhywstr i gwblhau gofynion cwrs academaidd.

Dylai pob adran sy'n cyflogi benodi uwch aelod staff fel mentor gyda chyfrifoldeb dros gydlynu ôl-raddedigion sy'n dysgu a goruchwylio hyfforddiant, cefnogaeth ac asesu staff dysgu ôl-radd.

Dylai sefydliadau sy'n cyflogi fod â rheolau gweithredu ar gyfer cyflogi myfyrwyr ôl-radd fel staff dysgu, gan gynnwys datganiad o hawliau a chyfrifoldebau, ynghyd ag argymhelliad y dylai staff dysgu ôl-radd ymuno ag undeb cydnabyddedig.
Mae gan gyflogwyr ddyletswydd i ddarparu yswiriant i amddiffyn athrawon ôl-radd yn erbyn achosion cyfreithiol yn rhinwedd eu cyflogaeth.

Mae myfyrwyr ôl-radd a gyflogir i ddysgu neu arddangos â'r hawl i ddisgwyl:

  • Y cyfle i nodi'r pynciau yr hoffent eu dysgu fel rhan o'r broses ymgeisio. Dylid ystyried hyn fel rhan o'r broses benodi.
  • Manylion ysgrifenedig ynglyn â'u dyletswyddau. Dylai hyn gynnwys y nifer o oriau angenrheidiol ar gyfer paratoi a marcio, ynghyd ag oriau yn y gwiath gan gynnwys darlithoedd, cyfarfodydd, oriau cyswllt, oriau swyddfa, goruchwylio arholiadau, cyfathrebu â myfyrwyr, gweinyddiaeth a hyfforddiant gorfodol, a.y.b.
  • Hyfforddiant priodol a digonol i'w paratoi ar gyfer eu gwaith - gweler isod.
  • Goruchwyliaeth neu gefnogaeth gan uwch aelod staff.
  • Gwybodaeth ynglyn â pha adnoddau a chefnogaeth ar gyfer dysgu sydd ar gael o fewn i'r brifysgol.
  • Defnyddiau cwrs. Rhaid i'r rhain gynnwys copi o bob llyfr a defnyddiau dysgu sydd eu hangen ar y myfyrwyr sy'n cymryd y dosbarth, yn ddi-dâl. Ni ddylai staff dysgu ôl-radd, dan unrhyw amgylchiadau, orfod talu am ddefnyddiau sydd eu hangen i weithredu eu cyfrifoldebau proffesiynol.
  • Man diogel i gadw eiddo personol a thraethodau myfyrwyr, ynghyd â dull priodol ar gyfer cyfathrebu â myfyrwyr ac ar gyfer casglu gwaith myfyrwyr.
  • Cyflog sy'n seiliedig ar y nifer o oriau sydd eu hangen i gwblhau holl dyletswyddau'r swydd. Dylai hyn gynnwys paratoi, hyfforddiant angenrheidiol, oriau swyddfa, cyfarfodydd, cyfathrebu â myfyrwyr, goruchwylio arholiadau, gwaith maes, a gweithgareddau asesu.
  • Gwerthuso ac asesu gan uwch aelod staff ac adborth o werthuso myfyrwyr a ffurflenni asesu.
  • Cyfle i roi adborth ar gyrsiau, dulliau dysgu, a'r gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer gwaith dysgu.
  • Cynrychiolaeth ffurfiol ar bwyllgor dysgu'r adran
  • Yr hawl i gyfranogi mewn datblygiad cyrsiau.
  • Ymarfer dysgu wedi ei achredu ar yr un sail ag aelodau eraill o staff.

Hyfforddiant

Mae gan fyfyrwyr ôl-radd a gyflogir i ddysgu yr hawl i ddisgwyl cael hyfforddiant priodol a digonol i'w paratoi ar gyfer eu gwaith. Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar natur y cwrs sydd i'w ddysgu, ynghyd â rôl a chyfrifoldebau'r myfyriwr ôl-radd. Serch hynny, mae gan fyfyrwyr ôl-radd a gyflogir i ddysgu, neu i arddangos, yr hawl i ddisgwyl:

  • Cyfranogiad mewn datblygu a darparu hyfforddiant.
  • Hyfforddiant cyn dechrau'r cwrs.
  • Cyflwyniad a rhagarweiniad i ddysgu yn yr adran.
  • Briffio ar y cwrs sydd i'w ddysgu gan gynnwys rôl a chyfrifoldebau proffesiynol yr athro, a fel sy'n briodol, braslun o'r cwrs, amcanion y cwrs, y maes gwaith a'r rhestr ddallen, gofynion y cwrs, dulliau dysgu, gweinyddiaeth y cwrs, canllawiau ar gyfer gyflwyno gwaith cwrs yn hwyr ac estyniadau
  • Hyfforddiant yn y sgiliau penodol a fydd eu hangen i ddysgu'r cwrs, e.e. arddangos mewn labordy, cynnal dosbarth, gwaith gyda grwpiau bach, cynllunio gwersi, cyflwyno a chyfathrebu.
  • Hyfforddiant ar bolisïau perthnasol y brifysgol gan gynnwys rheolau tân a diogelwch, polisïau cyfle cyfartal, polisïau aflonyddu rhywiol, polisïau yn ymwneud â chael perthynas gydsyniol gyda myfyrwyr, canllawiau ar dwyllo a llen-ladrad, canllawiau ar gyfrinachedd a gwybodaeth ynglyn â chyfeirio materion bugeiliol i asiantaethau arbenigol ac ynglyn â gwasanaethau cefnogaeth i fyfyrywr.
  • Hyfforddiant ar ddamcaniaethau addysgiadol.
  • Cefnogaeth a datblygiad parhaus yn ystod y cwrs (e.e. cyfarfodydd briffio rheolaidd, arsylwi dysgu, cyfarfod â mentor, gweithdai dysgu rheolaidd, dyddiadur ymarfer dysgu, cyfarfodydd cefnogaeth wedi eu harwain gan y sawl sy'n cymryd rhan).
  • Cefnogaeth barhaus gan gyfoedion.
  • Hyfforddiant ar farcio, gan gynnwys asesu, graddio ac adborth, ac arweiniad ar ffurf graddfeydd marcio a meini prawf ar gyfer asesu.
  • Hyfforddiant diogelwch mewn labordy a phrofiad ymarferol gydag unrhyw gyfarpar a ddefnyddir ar gyfer gwaith arddangos ac arweiniad ynglyn â canlyniadau y gellir eu disgwyl a phroblemau cyffredin gydag arbrofion ymlaen llaw o'r gwaith arddangos.
  • Hyfforddiant ar ddysgu myfyrwyr ag anghenion arbennig.
  • Y cyfle i gael rhywun yn arsylwi ar eu dosbarthiadau ac i arsylwi ar un o'u cyfoedion yn dysgu.