Ôl-Radd: Addas i bawb?
Dyfodol Ôl-Raddedigion mewn Ad-drefnu Addysg Uwch
Cynhadledd Flynyddol 2004
Dydd Iau 12 Dydd Sul 15 Awst 2004
Prifysgol Coventry
Noddwyd gan Graduate Prospects Ltd. http://www.prospects.ac.uk.
Prifysgol Coventry sy'n cynnal y digwyddiad
Cynhelir Cynhadledd Flynyddol PCÔR 2004 ym Mhrifysgol Coventry. Bydd y ddau ddiwrnod cyntaf yn cynnwys sesiynau gyda siaradwyr yn bennaf, gyda'r diwrnod cyntaf yn canolbwyntio ar areithau allweddol ar y brif thema; bydd yr ail ddiwrnod yn cynnwys seminarau, siaradwyr a sesiynau hyffordi ar faterion ôl-radd. Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar y dydd Sadwrn, gyda chyfle i gymdeithasu yn y prynhawn a seminarau. Cynhelir gweithdai anffurfiol ar y dydd Sul cyn cau y gynhadledd amser cinio. Y gynhadledd hon yw ein prif ddigwyddiad o'r flwyddyn lle gellir gweld y mwyafrif o waith PCÔR. Mae hefyd yn ddigwyddiad defnyddiol o ran dod i ddeall y materion hynny sy'n effeithio ar ôl-raddedigion, a hynny o safbwynt ôl-raddedigion
Pwy ddylai fynychu'r digwyddiad?
Os yw eich gwaith yn ymwneud ag ôl-raddedigion mewn unrhyw ffordd a'ch bod yn un o'r bobl a restrir isod, yna bydd y gynhadledd o ddiddordeb i chi:
- Swyddogion ôl-radd
- Swyddogion addysg
- Swyddogion sabathol o gyrff cynrychioli myfyrwyr
- Gweinyddwyr prifysgolion, tiwtoriaid ac eraill sy'n gyfrifol am gefnogaeth i ôl-raddedigion
- Rheolwyr cyrff cynrychioli myfyrwyr
Rhaglen ar gyfer Cynhadledd PCÔR 2004
Mae'r rhaglen ar gyfer y gynhadledd wedi ei amlinellu isod, a gall newid rhywfaint.
Bydd cofrestru'n dechrau am 10:30am gyda gweithdy ymgyfarwyddo ar beth yn hollol yw ôl-raddedigion am 11:30am i'r rheiny sy'n cyrraedd yn gynnar. Bydd cinio o 12:30pm ymlaen.
Dydd Iau 12fed Awst
Bydd diwrnod cyntaf y gynhadledd yn cynnwys siaradwydd allweddol yn ymdrin â phrif thema'r gynhadledd eleni, sef dyfodol addysg ôl-radd yng ngoleuni ad-drefnu addysg uwch. Bydd yno hefyd weithdai ar faterion sy'n perthyn i ôl-raddedigion
SESIWN 1: 1:45pm - 3:00pm
Araith agoriadol gan Joe Rukin, Ysgrifennydd y Gynhadledd ac Is-Ganghellor Prifysgol Coventry.
Bydd Dr Ian Gibson AS, Cadeirydd Pwyllgor Dethol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Ty'r Cyffredin yn traddodi araith allweddol
Toriad
SESIWN 2: 3:30pm - 6:30pm
Bydd Dr Steve Wharton, Is-Lywydd Cymdeithas Athrawon Prifysgol yn edrych ar y cysylltiadau rhwng ymchwil ac addysgu, ynghyd ag oblygiadau i ddyfodol addysg uwch.
Bydd Gill Clarke a Janet Bohrer, Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd, yn trafod y Rheolau Gweithredu newydd ar gyfer Gradd Ymchwil ac ad-drefnu safonau mewn rhaglenni gradd ymchwil.
Bydd yr Athro John Wakeford yn cyflwyno gweithdy ar gwynion ac apêl sy'n perthyn yn benodol i ôl-raddedigion
Bydd cinio o 6:30pm ymlaen, gyda chyfle i ddilyn i fyny gweithdy John Wakeford am 8:00pm. Bydd y noson cymdeithasol yn dechrau am 8:30pm.
Dydd Gwener 13eg Awst
Ail ddiwrnod y gynhadledd fydd y prysuraf gyda phwyslais ar sesiynau trosglwyddo gwybodaeth, gweithdai a sesiynau hyfforddi ar faterion ôl-radd i gynorthwyo swyddogion gyda chynnig cefnogaeth a chynrychioli ôl-raddedigion. Buasem yn argymell fod y rheiny na allant ond bod yn bresennol am un diwrnod yn dod ar gyfer y dydd Gwener.
SESIWN 3: 9:00am - 11:00am
Dr Paul Walker, Coleg Prifysgol Llundain ar "Datblygiad sgiliau ei le mewn rhaglenni ôl-radd?"
Sesiwn Gyfochrog:
- Imogen Wiltshire, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Leeds, a siaradwr arall i'w gadarnhau, ar faterion sy'n ymwneud â myfyrwyr ymarfer dysgu ar gyrisiau TYDR ac MAdd
- Beatrice Merrick, Cyngor y DU dros Faterion Myfyrwyr Tramor ar y materion hynny sy'n effeithio ar fyfyrwyr rhyngwladol
Toriad
SESIWN 4: 11:30am - 12:30pm
Dr Janet Metcalfe ac Ellen Pearce, UK GRAD ar gynllunio datblygiad personol ar gyfer myfyrwyr ymchwil gan gynnwys canlyniadau o arolwg cenedlaethol a gynhaliwyd ar y cyd â PhCÔR yn 2004
Cinio
SESIWN 5: 1:30pm - 3:30pm
Y Fonesig Ruth Deech, Swyddfa'r Beirniad Annibynnol ar ddyfodol cwynion ôl-radd o fewn i'r swyddfa newydd dros Leogr a Chymru
Yr Athro Howard Green, Cadeirydd Cyngor y DU dros Addysg Ôl-Radd
Toriad
SESIWN 6: 4:00pm - 6:00pm
Sesiwn hyfforddi ar gefnogaeth a chynrychiolaeth
Cinio Blynyddol o 7:30pm ymlaen mewn lleoliad cyfagos.
Dydd Sadwrn 14eg Awst
SESIWN 7: 9:00am - 13:00pm
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2004 sy'n cynnwys toriad. Yn ystod y cyfarfod, bydd etholiad ar gyfer y pwyllgor gwaith newydd a'r Ysgrifennydd Cyffredinol llawn-amser newydd a fydd yn gosod dyfodol newydd i BCÔR.
Cinio wedi ei becynnu ac amser i gymdeithasu yn Coventry o 1:00pm.
SESIWN 8: 5:30pm - 7:30pm
Sesiwn Holi gyda Kat Fletcher, Llywydd, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr - Cyfle i holi a thrafod materion ôl-radd gydag arweinydd corff myfyrwyr mwyaf y DU
Sesiwn wybodaeth ar sut mae PCÔR yn gweithio trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys sut i ddefnyddior rhyngrwyd, e-bost ac adnoddau eraill.
Cinio o 7:30pm gyda noson gymdeithasol o 9:00pm.
Dydd Sul 15fed Awst
SESIWN 9: 10:00am -12:30pm yn cynnwys toriad
Dr Tim Brown a Harpreet Singh i siarad am eu cyfranogiad yn Eurodoc a sut y gall cyfranogiad PCÔR ar raddfa Ewrop gyfan weithio er budd ôl-raddedigion yn y DU.
Bydd Dr Martin Gough, Coleg Prifysgol Llundain yn dilyn gyda seminar o - "Datblygiad sgiliau ei le mewn rhaglenni ôl-radd?"
Araith i Gloi a chinio am 12:30pm.
Dylech nodi, er fod y siaradwyr a enwir wedi cadarnhau eu presenoldeb, y gall y rhaglen, gan gynnwys yr amseroedd, newid oherywdd amgylchiadau tu hwnt i'n rheolaeth.
Ffioedd cofrestru
Cynhadledd lawn
Cynrychiolwyr o sefydliadau syn aelodau o BCÔR £210
Eraill £320
Mae ffioedd cynhadledd lawn yn talu am fynediad i bob sesiwn, prydau bwyd gan gynnwys y cinio blynyddol ar y nos Wener a llety ar y nos Iau, nos Wener a'r nos Sadwrn. Gall y rheiny na allant aros ar gyfer y gynhadledd lawn fynychur digwyddiad am ba nifer bynnag o ddyddiau/nosweithiau ag y dymunant.
Cofrestru fesul diwrnod
Cynrychiolwyr o sefydliadau sy'n aelodau o BCÔR £30 y dydd
Eraill £60 y dydd
Mae ffi cofrestru ar gyfer diwrnod yn talu am fynediad i bob sesiwn a chinio canol dydd ar y diwrnod hwnnw.
Llety
Gellir trefnu llety ar gyfer cynrychiolwyr sy'n dod am y diwrnod ac i'r rheiny sy'n dymuno cyrraedd ar y dydd Mercher am bris o £20 y noson. Mae'r ffi yn talu am wely a brecwast. Yn anffodus nid oes yno 'stafelloedd ensuite ar gael er fod gwestai cyfagos o fewn cyrraedd i'r Brifysgol. Dylech gysylltu â'r Ysgrifennydd Cyffredinol ar npc@npc.org.uk am fwy o wybodaeth
Ffioedd ychwanegol
Nid yw ffi cofrestru am y diwrnod yn talu am ginio hwyr. Bydd angen taliad o £10 ar gyfer cinio ar y nos Iau a'r nos Sadwrn. Pris y Cinio Blynyddol ar y nos Wener fydd £30.
Dylech nodi fod rhaid dychwelyd ffurflenni trefnu erbyn dydd Gwener 30ain Gorffennaf 2004
Sut i drefnu lle yn y gynhadledd
Gallwch drefnu lle yn y gynhadledd trwy gwblhau'r ffurflen sydd ar gael i'w lawrlwytho o http://www.npc.org.uk. Fel arall, mae ffurflenni trefnu ar gael trwy gysylltu â Tim Brown, ar npc@npc.org.uk neu trwy ffonio 01483 683921.