Pwyllgor Cenedlaethol yr Ôl-Raddedigion

pco-r Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae addysg ôl-radd yn y DU wedi datblygu i mewn i farchnad ryngwladol gyda mwy na 400,000 o fyfrywyr. Er fod y gymuned ôl-radd wedi cynyddu, nid yw strwythurau cefnogaeth, cynrychiolaeth a hunaniaeth ar gyfer ôl-raddedigion wedi tyfu ar yr un raddfa. Felly aeth Pwyllgor Cenedlaethol yr Ôl-Raddedigion, a sefydlwyd yn 1992, ati i fynd i'r afael â'r holl faterion sydd wedi codi ers hynny. Ni yw'r unig fudiad yn y DU sy'n cael ei redeg gan ôl-raddedigion er budd ôl-raddedigion, boed ar gyrsiau a ddysgir neu'n fyfyrwyr ymchwil.

Datganiad Cenhadaeth

Ein cenhadaeth yw gwella, er budd y cyhoedd, addysg myfyrwyr ôl-radd o fewn i'r Deyrnas Unedig. Byddwn yn gwireddu hyn trwy gynrychioli ôl-raddedigion yn ddemocrataidd, cyfrannu at drafodaethau, cefnogi cynrychiolwyr ôl-raddedigion a chynorthwyo cyfathrebu rhwng y carfannau hynny sydd â buddiannau yn y sector.

Mae ein gweledigaeth yn cynnwys system addysg ôl-radd lle:

  • Caiff ymgeiswyr eu hasesu ar eu gallu i dysgu nid eu gallu i dalu;
  • Mae dysgu ac ymchwil yn digwydd mewn amgylchedd sy'n hybu ac yn cynnal cydraddoldeb cyfle;
  • Caiff strwythurau ariannol, deallusol, bugeiliol a chefnogaeth gymdeithasol digonol eu darparu.

Byddai gwireddu'r weledigaeth hon yn galluogi myfyrwyr unigol i wneud y defnydd gorau o'u potensial er eu budd eu hunain, gwybodaeth academaidd, yr economi a chymdeithas yn gyffredinol.

Ynglyn â Phwyllgor Cenedaethol yr Ôl-Raddedigion (PCÔR)

Ar ôl bodoli ers dros ddegawd, daeth PCÔR yn elusen gofrestredig yn dilyn cymeradwyo cyfansoddiad newydd yng nghynhadledd flynyddol 2002. Bydd hyn o fantais fawr gan y bydd cymorth ariannol i BCÔR yn mynd ymhellach tuag at gynnal ôl-raddedigion yn uniongyrchol, a bydd PCÔR yn gallu mynd ymhellach tuag at wireddu'r nod a amlinellir yn y datganiad cenhadaeth. Mae gan BCÔR ddwy brif ffynhonnell ar gyfer cyllido, sef ymaelodaethau gan gyrff cynrychioli myfyrwyr a chyfraniadau unigol. Mae'r pwyllgor ei hun yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau sydd mewn aelodaeth a chyrff cydnabyddedig. Maent yn cymeradwyo penderfyniadau a pholisïau PCÔR a gaiff eu gweithredu gan yr Is-Bwyllgor Rheoli, y cyfeirir ato hefyd fel y Pwyllgor Gwaith. Mae PCÔR yn gorff annibynnol nad yw yn perthyn i unrhyw garfan wleidyddol.

Mae PCÔR wedi bod mewn cysylltiad clòs gyda chyrff cyllido addysg a'r llywodraeth ar faterion perthnasol sy'n ymwneud ag addysg ôl-radd. Mae cyrff o'r fath yn cynnwys y cynghorau cyllido, cynghorau ymchwil, ASA Prifysgolion y DU a ScoP, ymhlith eraill. Caiff cryn lawer hefyd ei gyfathrebu i ôl-raddedigion trwy ein hadnoddau arlein a hefyd ein gwasanaethau o fewn i ran gyfyngedig y safwe sy'n agored i'n haelodau. Mae amrywiaeth o wybodaeth ar gael ar gyfer darpar ôl-raddedigion trwy gyhoeddiad arbennig ar gyfer Addysg Ôl-Radd sy'n eiddo i BCÔR.

Mae nifer o gyrff yn gysylltiedig â PhCÔR er mwyn gweithio ar faterion ôl-radd lle mae yno fuddiannau cyffredin, yn arbennig Cyngor Addysg Graddedigion y DU (CAGDU). Mae gan BCÔR dri chorff cydnabyddedig ar hyn o bryd, sef Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM), Undeb y Myfyrwyr Hyn (UMH) a'r Cyngor er Myfyrywr Rhyngwladol (CMRh). Mae gan y tri chorff yma'r hawl i anfon un aelod fel cynrychiolydd i bleidleisio mewn cynadleddau, ynghyd â chyflwyno cynigion sydd o ddiddordeb cyffredin. Mae'r trefniant yma fel arfer yma yn gweithio'r ffordd arall hefyd, fel y gall PCÔR anfon cynrychiolwyr i ddigwyddiadau'r mudiadau hynny.

Gweithgareddau PCÔR

Caiff y rhan fwyaf o waith PCÔR ei wneud gan yr Ysgrifennydd Cyffredinol sy'n cael ei gyflogi'n llawn-amser. Mae'r gwaith yn cynnwys gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer PCÔR, ymdrin â gweinyddiaeth a chynorthwyo gweddill y pwyllgor gwaith i lunio cyhoeddiadau, canfod gwybodaeth a mynychu digwyddiadau sydd o ddiddordeb i ôl-raddedigion. Mae'r pwyllgor gwaith yn cynnwys cadeirydd, swydog cyfleoedd cyfartal a phedwar swyddog prosiect sy'n ymgymryd â phrosiectau arbennig sy'n berthnasol i faterion ôl-radd cyfoes. Mae yno hefyd is-bwyllgorau yn gweithredu yn yr Alban a Chymru, gyda chadeirydd sy'n adrodd yn ôl i'r pwyllgor gwaith. Ynghyd ag ymgyrchu dros fuddiannau ôl-raddedigion yn genedlaethol, mae PCÔR yn cynnig cefnogaeth i gyrff cynrychioli myfyrywr lle bo hynny'n briodol. Mae cefnogaeth o'r fath yn cynnwys cyngor ar gwynion ac apêl ôl-raddedigion, cynrychiolaeth ôl-raddedigion a fforwm rhyngweithiol cenedlaethol.

Pam Ymaelodi?

Mae yno ddau brif reswm pam yr hoffai sefydliad ymaelodi â PhCÔR. Y peth cyntaf i'w ystyried yw'r ffaith mai elusen yw PCÔR. Mae ymaelodi felly yn golygu cefnogi'r mudiad er mwyn hybu addysg ôl-radd yn genedlaethol a thrafod materion y byddai'n anodd i un corff cynrychioli neu bwyllgor ôl-raddedigion ymdrin â hwy. Mae felly yn fodd gweithredol o gefnogi ôl-raddedigion fel y gall PCÔR fel elusen ddefnyddio'r incwm a dderbynnir gan aelodau i'r diben gorau posibl.

Y prif reswm arall dros ymaelodi yw y gall PCÔR ddarparu cefnogaeth a chyngor i gyrff cynrychioli a phwyllgorau ôl-raddedigion, gan ei fod yr unig fudiad yn y DU sy'n arbenigo mewn cynrychioli ôl-raddedigion yn genedlaethol. Gellir cysylltu â'r Ysgrifennydd Cyffredinol i'r diben hwn. Mae PCÔR hefyd wedi cynhyrchu pecyn adnoddau sy'n cynnwys cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol. Mae llawer o'r wybodaeth yma ar gael i bob myfyriwr ôl-radd mewn sefydliadau sydd mewn aelodaeth ar y rhan cyfyngedig o'r safwe, a fydd o fantais i holl ôl-raddedigion unrhyw saefydliad. Wrth i amser fynd heibio, caiff gwybodaeth ychwanegol ei hychwanegu at y pecyn, a'i anfon i aelodau.

Ynghyd â'r pecynnau hyn, mae aelodau hefyd yn derbyn copi am ddim o gyhoeddiad Addysg Graddedigion bob tro y daw rhifyn allan. Caiff papurau eu cyflwyno i'r cyhoeddiad hwn sy'n ymdrin â phynciau o safbwynt ôl-raddedigion.
Mae'r canlynol wedi ymdangos mewn rhifynnau diweddar: pa gwestiynau i'w disgwyl mewn viva doethuriaeth ac ymchwil i mewn i ôl-raddedigion sy'n gweithio fel cynorthwywyr addysgu.

Sut all aelodau ddefnyddio llais PCÔR?

Mae yno nifer o ffyrdd y gall aelodau gael mewnbwn i BCÔR. Yn gyntaf, mae'r Ysgrifennydd Cyffredinol ar gael i ymgynghori ar unrhyw faterion fel y trafodwyd yn yr adran flaenorol. Yn ail, gellir mynd â chynigion ac eitemau i'w cynnwys ar yr agenda i'r cyfarfodydd os yw cynrychiolydd yn dymuno codi unrhyw fater ar lefel genedlaethol. Yn olaf, mae PCÔR yn croesawu unrhyw syniadau ac awgrymiadau a all fod o fudd pellach i'w aelodau.

Gwybodaeth Bellach

Gellir canfod gwybodaeth bellach gan yr Ysgrifennydd Cyffredinol ar npc@npc.org.uk. Hefyd ar y safwe, mae'n bosibl ymuno â rhestr ohebu PCÔR. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ar gael trwy ohebiaeth ac e-bost oddi wrth BCÔR, PCÔR Cymru a PhCÔR yr Alban. Ynghyd â hyn, mae yno restr ohebu Ôl-Radd ar gael ar gyfer materion sy'n perthyn i ôl-raddedigion.

----------

Mae Pwyllgor Cenedlaethol Ôl-Raddedigion y Deyrnas Unedig yn Elusen Albanaidd Rhif SC033368