Hydref 2002

PÔ-RC Cymru yn cyflwyno Deiseb ir Cynulliad

petition

Ar ddydd Iau 25 Gorffennaf, cyflwynodd cynrychiolwyr PÔ-RC Cymru ddeiseb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Roedd yn galw am ymestyn Grantiau Dysgur Cynulliad (GDC) i fyfyrwyr ôl-radd, a sicrhau fod cynhaliaeth ddigonol ar gael i ôl-raddedigion o gronfeydd caledi pan ddaw GDC i rym. Roedd y ddeiseb yn cynnwys 400 o lofnodion gan fyfyrwyr pryderus o Abertawe, Bangor, Caerdydd ac Aberystwyth yn galw am well cynhaliaeth ariannol ar gyfer ôl-raddedigion.

Derbyniwyd ymateb ir ddeiseb gan Kevin Clapham or Adran Addysg Uwch, ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, ar 4 Medi. Dywedodd fod GDC wedi cael eu cyflwyno yn unol ag argymhellion Adroddiad Rees, tra bod Llywodraeth y DU yn dal i fod yn gyfrifol am gynhaliaeth statudol ar gyfer myfyrwyr. Serch hynny, ystyrir 2002/2 i fod yn flwyddyn arloesol, a bod Llywodraeth Cynulliad Cymru eisiau ddysgu or profiad. Gan gyfeirio at Gronfeydd Arian Wrth Gefn, esboniodd Mr Clapham y byddair CAWG yn cael eu gweinyddu yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, er y byddai Sefydliadau, wrth fynd ati i ystyried ceisiadau, yn rhoi ystyriaeth i unrhyw gynhaliaeth arall sydd ar gael i unigolion (e.e. GDC).
Bydd PÔ-RC Cymru yn trafod hyn yn ein cyfarfod nesaf (gweler isod) lle byddwn yn penderfynu sut i symud ymlaen gydar mater hwn. Rydym yn falch i sefydlu deialog gydar Cynulliad, a bod cynifer o ôl-raddedigion a swyddogion undebau myfyrwyr wedi cyfranogi yn ein hymgyrch llynedd.

Cyfarfod nesaf PÔ-RC Cymru

Cynhelir y cyfarfod ar ddydd Gwener 1 Tachwedd o 2pm - 5pm yng Nghanolfan y Graddedigion, Prifysgol Caerdydd. Rydym yn annog holl gynrychiolwyr ôl-raddedigion, swyddogion sabathol syn cynrychioli ôl-raddedigion (megis swyddogion addysg), swyddogion myfyrwyr hyn, ac unrhyw un arall sydd â diddordeb, i fynychur cyfarfod. Maer agenda hyd yma yn cynnwys y canlynol:

  1. Dilyn i fyny o gyflwynor ddeiseb ir Cynulliad
    % Y diweddaraf ar argymhellion Adroddiad Rees ar gyfer ôl-raddedigion
    % Ehangu cyfranogiad ar gyfer ôl-raddedigion?
    % Cynlluniau ar gyfer Semester y Gwanwyn

Os hoffech ychwanegu unrhyw beth at yr agenda, yna anfonwch e-bost at wales@npc.org.uk. Ar y diwrnod canlynol (dydd Sadwrn 2 Tachwedd) cynhelir cyfarfod o BÔ-RC Cymru yng Nghaerdydd, lle bydd yr Athro Teresa Rees, cadeirydd y grwp annibynnol a sgrifennodd Adroddiad Rees, yn siarad ar gyfleoedd cyfartal mewn addysg uwch. Os hoffech fynychur ddau ddigwydiad, cysylltwch â nin fuan ar mwyn trefnu llety ar gyfer y nos Wener.

Beth yw PÔ-RC Cymru?

Ein nod yw hyrwyddo addysg ôl-radd yng Nghymru. Rydym yn rhan o BÔ-RC y DU, syn gorff elusennol, ac rydym yn cydweithio ag UCMC. Rydym yn annog unrhyw un syn cynrychioli ôl-raddedigion i gyfranogi.

Dogfen briffio PÔ-RC Cymru ar gyfer swyddogion

Ym mis Awst Eleni, aeth PÔ-RC Cymru ati i gynhyrchu a dosbarthu dogfen briffio, a sgrifennwyd fel cyflwyniad i faterion ôl-radd ar gyfer swyddogion undeb myfyrwyr. Maer ddogfen ar ein safwe os hoffech fwrw golwg drosti (www.npc.org.uk/wales), neu gallwn anfon copi i chi trwyr post.