Cyfarfod PÔ-RC Cymru, Dydd Gwener 1 Tachwedd
Canolfan y Graddedigion, Caerdydd, 2pm
1. Ymgynnull
2. Cofnodion a materion yn codi
PÔ-RC Cymru 16/3/02, Caerdydd
PÔ-RC Cymru 15/5/02, Abertawe
3. Adroddiadau
Cadeirydd PÔ-RC Cymru
Trysorydd PÔ-RC Cymru
4. Deiseb ar Grantiau Dysgur Cynulliad
5. Ymholiadau ynglyn ag argymhellion Adroddiad Rees
6. Ehangu cyfranogiad mewn addysg ôl-radd?
7. Ethol Is-Gadeirydd PÔ-RC Cymru
8. Deiseb PÔ-RC Cymru
9. Cynlluniau ar gyfer semester y Gwanwyn
10. Dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf
Bydd y cyfarfod yn dod i ben am 5pm
----------------------
Adroddiad Cadeirydd PÔ-RC Cymru i Gyfarfod Cyffredinol Caerdydd, Tachwedd 2002
Ers y Cyfarfod Cyffredinol Blyddol rwyf wedi:
 Mynychu hyfforddiant Is-bwyllgor Rheolaeth a chyfarfod yng Nghaerefrog
 Gwahodd yr Athro Teresa Rees i siarad yn y CC ac wedi cydlynu â swyddogion eraill ynglyn â chynnal y penwythnos hwn (gobeithio fod popeth yn mynd yn iawn)
 Cytuno i siarad â staff Coleg Meddygol PC ynglyn âr Pwyllgor Ôl-Radd Cenedlaethol
 Parhau i ohebu ag adran AU y Cynulliad Cenedlaethol ynglyn â Grantiau Dysgur Cynulliad, a gweithredu argymhellion Adroddiad Rees
 Sgrifennu cylchlythyr ôl-raddedigion Cymru
 Ceisio cadw rhestr ohebu Cymrun gyfoes
 Sgrifennu cofnodion ar gyfer dau gyfarfod diwethaf PÔ-RC Cymru
Rwyf yn ddigon bodlon ateb cwestiynau ynglyn âm swyddogaeth
-------------------------------------
Deiseb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Rydym ni sydd ân henwau isod yn galw ar y Cynulliad i roi hawl i fyfyrwyr uwch-radd sydd âu cartref yng Nghymru dderbyn y Grant Dysgu (ALG) y maer Cynulliad yn bwriadu ei gyflwyno.
Rydym yn nodi cynigion y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes ar 12 Chwefror 2002, i gyflwyno Grantiau Dysgu gan y Cynulliad, a fydd yn darparu ffynhonnell sicr o gymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr mewn addysg uwch ac, am y tro cyntaf, i fyfyrwyr mewn addysg bellach hefyd (datganiad i sesiwn lawn y Cynulliad ar 12/2/02). Yn dilyn argymhellion yr Ymchwiliad Annibynnol i Galedi a Chyllid Myfyrwyr (Adroddiad Rees), dawr cyllid ar gyfer y cynllun newydd, i raddau helaeth, o arian a ddynodir ar hyn o bryd i Gronfeydd Mynediad a Chaledi. Ni fwriedir caniatáu i fyfyrwyr uwch-radd fanteisio ar y cynllun.
Rydym ni or farn fod eithrio myfyrwyr uwch-radd or ALG yn wahaniaethol ac yn groes i ysbryd y cynllun. Angen, yn hytrach na lefel y cwrs a ddilynir, ddylai bennur hawl i gael cymorth ariannol.
Rydym hefyd yn credu bod cynllun y Gronfa At Raid (FCF) sydd yn yr arfaeth yn annhebygol o ddarparu digon o gyllid ar gyfer anghenion myfyrwyr uwch-radd sydd âu cartref yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae ar fyfyrwyr uwch-radd angen cryn dipyn o arian or Gronfa Galedi, yn arbennig ar gyfer costau gofal plant, ac mae swm (tipyn is) y Gronfa At Raid y bwriedir ei sefydlu yn ei lle yn annhebygol o fod yn ddigonol.