1. Rhagarweiniad
Mae yno ddiddordeb cynyddol mewn creu swyddog ôl-radd sabathol o fewn i gyrff cynrychioli myfyrwyr neu hyd yn oed o fewn i gorff ar wahan ar gyfer cynrychioli ôl-raddedigion. Er fod Pwyllgor Cenedlaethol yr Ôl-Raddedigion yn cydnabod y rhesymau o blaid ac yn erbyn creu swyddog ôl-radd sabathol [1], mae'r canllawiau canlynol yn amlinellu eu cylch gwaith pe bai swydd o'r fath yn cael ei chreu. Mae'r canllawiau yn cyfeirio at y rôl ei hun ac amodau'r swydd i sicrhau cynrychiolaeth ar gyfer ôl-raddedigion. Ynghyd â manylion ynglyn â'r swydd, amlinellir hefyd y cymorth gweinyddol angenrheidiol a'r gefnogaeth ddylai fod ar gael oddi wrth bwyllgor gwaith ôl-radd.
2. Rôl Swyddog Ôl-Radd Sabathol
Mae yno nifer o ddyletswyddau sy'n gweddu i rôl swyddog ôl-radd sabathol, sy'n cynnwys y canlynol, y gellir eu llunio fel sy'n briodol o fewn i sefydliad addysg uwch:
Cydlynu holl weithgareddau croesawu ôl-raddedigion, fforymau a gweithgareddau cymdeithasol eraill ar gyfer yr agenda ôl-radd. Mae'n arbennig o bwysig nodi yn yr achos hwn nad yw ôl-raddedigion fel arfer yn cyrraedd yn ystod wythnos gyflwyno myfyrwyr gradd. Mewn unrhyw achos o'r fath, ni chaiff y gweithgareddau hyn eu cynnwys ar eu hamserlen. Mae felly yn bwysig fod y swyddog ôl-radd sabathol yn sicrhau fod rhaglen groeso a rhaglen gymdeithasol wahanol, sy'n gweddu'n well i'r agenda ôl-radd, yn cael eu trefnu o fewn i gorff cynrychioli'r myfyrwyr
Gweithio gyda gyda staff eraill mewn sefydliad ar faterion ôl-radd. Byddai presenoldeb swyddog llawn-amser yn rhoi cyfle iddynt i gyfarfod ag aelodau staff priodol sydd angen trafod datblygiadau gydag ôl-raddedigion.
Gweithio gyda swyddogion sabathol eraill ar feysydd o fudd cyffredin. Bydd yno achosion lle bydd angen i swyddog sabathol ôl-radd weithio gyda swyddogion sabathol eraill, a felly dylai eu cylch gwaith nodi'n glir y berthynas sydd ganddynt gyda swyddogion sabathol eraill o fewn i gorff cynrychioli'r myfyrwyr.
Cynullio pwyllgor gwaith ôl-raddedigion. Bydd y pwyllgor hwn yn ymgymryd â swyddogaethau penodol mewn meysydd perthnasol eraill gan gynnwys materion academaidd, lles, cyfathrebu a gweithgareddau cymdeithasol. Byddant yn cyfathrebu â swyddogion eraill o fewn i'r pwyllgor gwaith ac yn cynnig eu cefnogaeth i swyddogion eraill pan fo angen. Efallai y bydd angen i'r sywddog ôl-radd sabathol gadeirio'r pwyllgor hwn.
Cydlynu gwaith cynrychiolaeth academaidd ôl-radd.
Bod yn brif gynrychiolydd ôl-raddedigion i bwyllgorau o fewn i sefydliad addysg uwch a hefyd Pwyllgor Cenedlaethol yr Ôl-Raddedigion. Mewn achosion lle nad yw yn bosibl iddynt i fod y cynrychiolydd, dylent fod yn gyfrifol am sicrhau fod rhywun yn cael ei ddirprwyo i fynychu cyfarfodydd, a allai olygu cynnal etholiad. Dylent fynegi buddiannau ôl-raddedigion ar yr un lefel ag y byddai swyddogion sabathol eraill yn cynrychioli myfyrwyr gradd.
Ffurfio polisi sy'n perthyn i ôl-raddedigion. Dylid gwneud hyn mewn cydweithrediad â'r corff democratiadd goruchaf maent yn atebol iddo. Ynghyd â'r pwyllgor gwaith, byddant yn gyfrifol am weithredu polisi.
Ymgymryd â gwaith ar achosion sy'n bwysig i ôl-raddedigion yn eu sefydliadau. Gall hyn olygu ymchwil, arolygon neu ymgyrchoedd lle gellir defnyddio tystiolaeth i ddylanwadu ar bolisi er budd ôl-raddedigion.
Bod yn gyfrifol am faterion cyfansoddiadol, yn arbennig lle bo ôl-raddedigion dan sylw. Gall hyn fod yn perthyn i gyfansoddiad corff cynrychioli myfyrwyr yn gyffredinol neu gorff cynrychioli ôl-raddedigion lle bo hynny'n briodol.
Bod yn brif olygydd unrhyw gyhoeddiadau a gaiff eu 'sgrifennu er mwyn ôl-raddedigion. Dylent hefyd sicrhau eu bod yn cael eu gosod at ei gilydd, eu hargraffu a'u dosbarthu'n effeithiol i bob myfyriwr ôl-radd; yn aml, byddant mewn gwahanol leoliadau i fyfyrwyr gradd. Gellir gwneud hyn yn effeithlon trwy ohebiaeth adrannol, rhestrau e-bost, posteri a safwe wedi ei strwythuro'n dda.
Hysbysebu pob gweithgaredd sydd ar gael i ôl-raddedigion. Bydd hyn yn sicrhau fod ôl-raddedigion yn ymwybodol o bopeth sydd ar gael iddynt a'u helpu i ddefnyddio cyfleusterau o'r fath fel sy'n briodol.
Bod yn gyfrifol am y gyllideb a bennwyd ar gyfer ôl-raddedigion.
Sicrhau dilyniant trwy weithredu cynllun trosglwyddo'r awenau.
Mae yno hefyd amodau pwysig ar gyfer pam y dylai swydd ôl-radd sabathol fodoli er mwyn sicrhau fod y rôl yn gweddu i ôl-raddedigion:
Cyfnod yn y swydd sy'n gweddu i ôl-raddedigion. Bydd hwn fel arfer yn wahanol i fyfyrwyr gradd gan fod llawer o ôl-raddedigion yn gorffen eu rhaglenni astudio tua Medi/Hydref yn hytrach na Gorffennaf/Awst. Gan fod swyddi sabathol eraill yn dechrau yn ystod yr haf, anaml y bydd ôl-raddedigion yn sefyll amdanynt. Dylid ystyried y ffactorau hyn wrth benderfynu ar gyfnod y swydd.
Etholiad gan ôl-raddedigion. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn cael eu hethol gan y myfyrwyr hynny maent yn eu cynrychioli.
Bod wedi cofrestru fel myfyriwr ôl-radd ar adeg yr etholiad. Dylid cynnal yr etholiad ar amser priodol, ynghynt yn y flwyddyn fel nad yw yn ymyrryd â'u chynlluniau ceisio am swyddi os nad ydynt yn llwyddo cael eu hethol.
Cael eu cyfarwyddo gan ôl-raddedigion. Dylid sicrhau fod ôl-raddedigion yn cymryd rhan mewn cyfarwyddo gwaith eu swyddog sabathol er mwyn sicrhau tegwch. Nid oes yno unrhyw ddull cyffredinol o weithredu hyn oherywdd y gwahaniaethau mewn strwythurau cyfansoddiadol, ynghyd â'r cyfyngiadau a osodir allan yn neddf Addysg 1994 [2].
3. Cynorthwy-ydd Gweinyddol
Mae hefyd yn fanteisiol cael cymorth gweinyddol er mwyn caniatáu i'r swyddog ôl-radd sabathol weithio'n effeithiol. Byddai rôl y cynorthwy-ydd gweinyddol (a all fod yn rhan-amser neu lawn-amser yn dibynnu ar yr hyn sydd ei angen) yn cynnwys;
- Cynnal gweinyddiaeth o ddydd i ddydd er mwyn arbed y swyddog sabathol rhag gwneud gormod o waith diflas.
- Cynorthwyo gyda chyhoeddusrwydd a chyfathrebu.
- Cyfeirio unrhyw fater sy'n perthyn i ôl-raddedigion i'r swyddogion priodol.
- Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw ymholiadau.
- Cynorthwyo gyda'r cyfnod trosglwyddo'r awenau er mwyn cynnal dilyniant.
4. Swyddogion Rhan-Amser
Un o'r problemau a ellir ei greu trwy fod â swyddog llawn-amser yw fod swyddogion rhan-amser ar y pwyllgor yn osgoi eu cyfrifoldebau gan ddisgwyl i'r swyddog sabathol wneud y rhan fwyaf o'r gwaith. Mae'n bwysig nodi wrth sefydlu swyddog ôl-radd sabathol nad oes disgwyl iddynt gynnal a rheoli gweithgareddau ôl-radd heb unrhyw gymorth.
Mae'n bwysig pwysleisio mai rôl drefnu a hwyluso sydd gan y swyddog ôl-radd sabathol, er mwyn sicrhau nad ydynt ond yn gweithredu'r dyletswyddau hynny sy'n angenrheidiol, gan sichrau amrywioldeb a chefnogaeth lawn o fewn i'r pwyllgor gwaith.
5. Cyfeirnodau
- T. Brown, "Providing for the Postgraduate Market", 2003, National Postgraduate Committee, ISBN 1-899997-09-1.
- "Deddf Addysg 1994", Cyhoeddiadau HMSO, ISBN 01-054309-43, Rhan II Undebau Myfyrwyr