Canllawiau ar Gyfleusterau Unigryw i Ôl-Raddedigion

1. Rhagarweiniad

Mae sefydliadau addysg uwch mawrion sydd â nifer sylweddol o ôl-raddedigion yn debygol iawn o ganfod fod llawer o'r myfyrwyr hynny yn perthyn i grwp unigryw. Mae yno amryw o anawsterau yn perthyn i ddiwallu anghenion a gwarchod buddiannau ôl-raddedigion, ynghyd â'r mwyafrif o fyfyrwyr gradd, pan fo ganddynt wahanol fuddiannau ac agendas. Mewn amgylchiadau o'r fath, mae nifer o sefydliadau addysg uwch wrthi'n ceisio darparu cyfleusterau arbennig ar gyfer ôl-raddedigion fel modd o ddiwallu'r anghenion hynny.

Mae darparu cyfleusterau o'r fath yn sicr o gynyddu'r gwahaniad sy'n bodoli rhwng myfyrwyr gradd ac ôl-raddedigion, a rhaid mynd i'r afael â hynny. Bydd y canllawiau hyn yn nodi, yn seiliedig ar farn ôl-raddedigion, ble y gellir cyfiawnhau gwahaniad a ble na ellir ei gyfiawnhau. Bydd prif ran y canllawiau hyn yn ystyried sut mae ôl-raddedigion yn mynd trwy broses o drosglwyddo, efallai yn syth ar ôl bod yn fyfyrwyr gradd, yr holl ffordd i fod yn aelod staff. Mae'n bosibl fod rhai ôl-raddedigion wedi dechrau mynd trwy'r broses hon cyn iddynt fod yn ôl-raddedigion, a bydd rhai yn mynd trwyddo yn gynt nag eraill, gan ddibynnu ar eu cynlluniau neu amgylchiadau. Mae yno nifer o gyfleusterau sydd ar gael i fyfyrwyr gradd a hefyd i staff, a fydd hefyd fel arfer yn hygyrch i ôl-raddedigion. Serch hynny, yn aml ychydig iawn sydd mewn lle ar gyfer graddedigion sy'n mynd trwy'r broses drosglwyddo yma, sy'n gallu arwain at ddiffyg hunaniaeth cymuned ôl-raddedigion. Bydd y canllawiau hyn yn rhoi enghreifftiau o arferion da wrth fynd ati i ddarparu cyfleusterau unigryw a sut y gellir darparu'r rhain, yn arbennig o ran trefniadau llety, cyfleusterau cymdeithasol, cefnogaeth astudio, cynrychiolaeth, trefniannau derbyn, sgiliau cyffredinol a chyfleusterau gwyliau. Bydd y canllawiau hefyd yn dwyn sylw at y manteision posibl o gael swyddogion ôl-radd sabathol ac ymestyn cyfleusterau o'r fath i ôl-raddedigion rhan-amser.

2. Rhesymau dros wahaniad a'r cyfiawnhad drostynt

Er mwyn ystyried ble gall fod angen osgoi gwahaniad neu ei dderbyn, rhaid cymryd i ystyriaeth y rhesymau pam fod gwahaniad yn digwydd. Mae yno amrywiaeth eang o fyfyrwyr ôl-radd, oll gyda phrofiadau gwahanol o'r broses drosglwyddo. Ar ddechrau'r sbectrwm mae ôl-raddedigion sydd newydd raddio. Mae'r myfyrwyr hyn yn debygol o fod yn ifanc, yn rhydd o unrhyw ymrwymiadau allanol ac yn cyfranogi ym mywyd myfyrwyr o fewn i'r sefydliad. Ar ben arall y sbectrwm, mae ôl-raddedigion yn cwblhau eu hastudiaethau neu ymchwil ac o bosibl yn symud ymlaen i yrfa broffesiynol neu hyd yn oed yn dod yn aelodau staff, sy'n golygu eu bod wedi symud ymlaen cryn ffordd ers bod yn fyfyrwyr gradd. Bydd amgylchiadau personol ôl-raddedigion hefyd yn effeithio ar eu hymwahaniad rhag myfyrwyr gradd. Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut mae hyn yn digwydd:

  1. Mae ôl-raddedigion rhan-amser a'r rheini sy'n cael eu rhyddhau o'u gwaith fesul bloc yn mynd i dreulio cyfnodau cyfyngedig yn y sefydliad. Mae hyn yn mynd i'w gwneud bron yn amhosibl iddynt integreiddio â myfyrwyr gradd, felly cânt eu gwahanu'n naturiol, ac nid oes angen newid hyn. Ni fydd gan ôl-raddedigion o'r fath lawer o gysylltiad â bywyd myfyrwyr, a byddant yn debygol o fod wedi mynd ymhellach i lawr y llwybr hwn gan ei bod yn debygol y byddant yn dilyn gyrfa broffesiynol.
  2. Mae'n bosibl y bydd gan fyfyrwyr hyn ymrwymiadau sylweddol, megis teulu sy'n golygu na allant integreiddio i mewn i fywyd myfyrwyr; mae'n bur debyg y bydd y rhain hefyd wedi mynd ymhellach gyda'r broses drosglwyddo.
  3. Bydd ôl-raddedigion llawn-amser heb lawer o ymrwymiadau personol mewn sefyllfa lle byddant yn cymdeithasu o fewn i'r sefydliad; byddant yn sicr o gymysgu'n gymdeithasol â myfyrwyr gradd. Er y bydd ganddynt rywfaint o ryddid a hyblygrwydd, byddant yn hyn na'r rhan fwyaf o fyfrywyr gradd, gan dreulio mwy o amser ymhlith eu cyfoedion, ac efallai'n addysgu myfyrwyr gradd. Mae'r ffactorau hyn, ymhlith eraill, yn cyfrannu at wahaniaethau cymdeithasol a fydd yn peri i rai ôl-raddedigion i ymbellháu eu hunain rhag myfyrwyr gradd. Mae hyn yn digwydd yn naturiol ac mae ymchwil wedi dangos fod hyn yn dderbyniol, ar sail adborth a dderbyniwyd gan ôl-raddedigion [1].
  4. Mae'n debygol y bydd amryw o ôl-raddedigion ieuengach, sydd wedi gorffen eu gradd yn ddiweddar, yn dal i fod â brwdfrydedd i gyfranogi mewn gweithgareddau myfrywyr. Serch hynny, mae'n bosibl nad yw hyn mor hygyrch iddynt hwy gan nad yw eu patrwm gwaith o fewn i'r sefydliad yr un fath â myfyrwyr gradd. Mae hefyd yn bosibl nad ydynt yn ymwybodol o'r hyn sydd ar gael iddynt hwy. Mae gwahaniad o'r fath yma'n digwydd oherwydd cyfyngiadau'r sefydliad, h.y. ffactorau y gellir eu goresgyn.

Mae'r pedwar enghraifft uchod o'r camau ar y daith o fod yn fyfyriwr gradd i fod yn ôl-radd yn dangos fod yno achosion o wahaniad na ellir e osgoi, achosion lle nad oes angen ei osgoi, ac achosion lle mae efallai angen ei oresgyn. Bydd sefydlu cyfleusterau unigryw ar gyfer ôl-raddedigion yn darparu ar gyfer yr ôl-raddedigion hynny nad ydynt yn integreiddio'n hawdd gyda staff na myfyrwyr gradd. Ar yr un pryd serch hynny, dylai cyfleusterau o'r fath wella hygyrchedd cyfleusterau myfyrwyr gradd a staff i ôl-raddedigion eu defnyddio fel bo angen. Nid yw'n fwriad i ôl-raddedigion ddim ond defnyddio'r cyfleusterau hynny a fwriadwyd yn arbennig ar eu cyfer.

3. Anghenion unigryw i ôl-raddedigion

Ynghyd â chreu lle ar gyfer y grwp ôl-radd, mae hefyd yn angenrheidiol i sefydliad nodi pa anghenion penodol sydd gan eu hôl-raddedigion, sydd fel arall yn anodd i'w diwallu heb gyfleusterau unigryw ar eu cyfer. Mae rhestr o anghenion penodol myfyrwyr ymchwil ôl-radd, ynghyd â'r rheini sy'n cael eu haddysgu, isod [1]:


Ôl-Raddedigion Ymchwil:

  • Yn aml ni chânt gyfle i ddod i adnabod unrhyw un ond y rheiny sydd o fewn i'w swyddfa
  • Gall eu hanghenion o ran llety fod yn dra gwahanol o gymharu ag eraill
  • Ychydig o bobl sydd ar gael iddynt rannu profiadau â hwy
  • Mae yno gyfrifoldebau addysgu a phwysau eraill arnynt tu allan i'w hymchwil eu hunain
  • Weithiau 'does yno neb i integreiddio â hwy sy'n gweithio ar yr un math o waith
  • Gwyliau cyfyngedig
  • Mae gwahanol agenda i'r diwrnod gwaith
  • Nid yw gweithgareddau cymdeithasol yn gyfleus oherwydd oriau gwaith
  • Ychydig iawn o gefnogaeth i gael dechrau ar raglen ymchwil

Ôl-Raddedigion sy'n cael eu Haddysgu:

  • Yn aml mae'n anodd cyfarfod â chydweithwyr tu hwnt i'r rheini sydd ar yr un cwrs
  • Yn aml nid yw llety a mannau cyfarfod canolog ar gyfer ôl-raddedigon yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn, sy'n golygu fod y gymuned maent yn rhan ohoni yn dadfaelio yn ystod y gwyliau
  • Mae cyrsiau yn fyr, sy'n cyfyngu ar ym amser sydd ar gael i ddod i adnabod y sefydliad yn iawn
  • Gyda chyrsiau byr, mae llawer o'r gwaith yn ddwys
  • Mae ôl-raddedigion yn debygol o fod yn fyfyrwyr hyn, rhan-amser neu ryngwladol, sydd weithiau'n ei gwneud yn anodd goresgyn gwahaniaethau cymdeithasol a diwylliannol heb y modd o wneud hynny'n hawdd
  • Gall myfyrwyr fod yn dod i astudio gyda mwy o brofiad ac yn dymuno adeiladu ar hynny ar lefel uwch

Ôl-Raddedigion sy'n cael eu Haddysgu ac Ymchwil:

  • Diffyg cyfleusterau yn ystod y gwyliau
  • Ychydig o sefydliadau sy'n rhedeg wythnos gyflwyno neu raglenni derbyn wedi eu strwythuro i groesawu myfyrwyr ôl-radd yn iawn.
  • Mae cyfleusterau cymdeithasol myfyrwyr yn apelio llai atynt
  • Dim ymdeimlad o gymuned; ceir y teimlad fod y sefydliad yn gweithredu er budd myfyrwyr gradd
  • Diffyg cyfle i gyfarfod ag ôl-raddedigion eraill ag eithrio'r rheiny sydd ar yr un cwrs neu raglen ymchwil, oherwydd nid oes yno gyfleusterau canolog lle gall ôl-raddedigion gyfarfod yn naturiol
  • Prinder cefnogaeth ar gyfer y gwahanol agweddau o ddatblygiad personol a chymdeithasol myfyrwyr ôl-radd
  • Bwlch eang rhwng cenedlaethau
  • Cyfleusterau myfyrwyr yn aml wedi eu hanelu tuag at fyfyrwyr gradd

Bydd gan bod sefydliad wahanol amrywiaeth o ôl-raddedigion, a bydd ganddynt wahanol anghenion a buddiannau. Wrth fynd ati i gynllunio cyfleusterau, mae'n hanfodol bwysig i unrhyw sefydliad ymchwlio i anghenion penodol eu hôl-raddedigion fel y gellir cynllunio cyfleusterau sy'n briodol ar gyfer eu hanghenion o fewn i grwp yr ôl-raddedigion. Diben yr enghreifftiau uchod yw cynorthwyo i ganfod beth yn hollol yw'r anghenion hynny. Ni fydd gan bob myfyriwr ôl-radd ym mhob sefydliad, o reidrwydd, y gofynion hyn i gyd, gan y bydd yn dibynnu ar niferoedd, cydbwysedd rhwng myfyrwyr llawn-amser a rhan-amser, canran o fyfyrwyr rhyngwladol, myfyrwyr hyn a ffactorau amrywiol eraill.

3. Modelau o ddarpariaethau unigryw ar gyfer ôl-raddedigion

Mae Pwyllgor Cenedlaethol yr Ôl-Raddedigion wedi ystyried nifer o wahanol gyfleusterau unigryw ar gyfer ôl-raddedigion ledled y DU ac wedi nodi rhai enghreifftiau o arferion da. Bydd y gwahanol fodelau yn diwallu buddiannau ôl-raddedigion mewn gwahanol ffyrdd a dylai sefydliadau eu defnyddio mewn ffyrdd priodol, yn dibynnu ar yr hyn sydd eisoes ar gael a sut y caiff y sefydliad ei strwythuro.

Canolfan Ôl-Radd - Mae i'r model yma fan penodol lle gall ôl-raddedigion gymdeithasu ac astudio. Mae hefyd o fudd cael gwahanol leoliadau o fewn i ganolfan yr ôl-raddedigion sydd â bar a 'stafell gyffredin gyda chyfleusterau te/coffi a.y.b. Mae hyn yn rhoi amrywiaeth o gyfleoedd i bobl o wahanol ddiwylliannau o fewn i gymuned yr ôl-raddedigion. Mae mannau astudio anffurfiol hefyd o fudd, gyda chyfleusterau cyfrifiadurol a chymhorthion dysgu eraill. Mae'n bosibl y gallai'r ganolfan ôl-radd fod yn agos, neu o fewn i'r un adeilad a chorff cynrychioli'r myfyrwyr. Os mai dyma yw'r achos, yna mae'n hanfodol bwysig fod canolfan yr ôl-raddedigion wedi ei gysgodi rhag y corff cynrychioli fel nad yw yn creu'r argraff nad yw ôl-raddedigion i ddefnyddio cyfleusterau ar wahan i'r rheiny sydd yng nghanolfan yr ôl-raddedigion. Byddai hynny’n hybu gwahaniad lle nad oes ei angen.

Corff Myfyrwyr Ôl-Radd - Ynghyd â chael cyfleusterau canolfan ôl-raddedigion, mae yno rai achosion lle caiff yr holl weithgaredd cynrychioli ei ddwyn i mewn i'r ganolfan ôl-radd fel ei fod i bob diben yn gweithredu fel corff myfyrwyr ôl-radd ar wahan. Bydd yno hefyd y posibilrwydd ar gyfer strwythur democrataidd gydag aelodau pwyllgor gwaith llawn-amser a staff cynorthwyol fel y gall ôl-raddedigion gyfarwyddo eu gweithgareddau eu hunain a chyrraedd eu cymuned eu hunain yn effeithlon. Mae'n hanfodol bwysig, serch hynny, fod y berthynas o fewn i'r prif gorff cynrychioli myfyrwyr yn cael ei ddiffinio'n glir, gan y bydd yn hollbwysig i'r ddau gorff weithio gyda'i gilydd er gwaethaf y ffaith y bydd ganddynt bolisïau cyferbyniol a rhesymau i weithio'n annibynnol o'i gilydd mewn amryw o achosion.

Clwb Cymdeithasol Ôl-Radd - Bydd hwn i bob diben yn gweithredu fel clwb cymdeithasol gydag aelodaeth o ôl-raddedigion

Campws Ôl-Radd - Gall sefydliadau sydd â safleoedd ar wahan efallai ddewis cyfyngu gweithgareddau ôl-radd i un campws.

5. Darpariaeth ar gyfer ôl-raddedigion

Er y gall cyfleusterau arbennig gael effaith sylweddol o ran darparu ar gyfer anghenion a buddiannau ôl-raddedigion, mae'n bwysig fod nifer o'r cyfleusterau cyffredinol a ddefnyddir gan ôl-raddedigion yn cael eu trefnu mewn ffordd y gallant gyflenwi ei gilydd. Mae'r rhain wedi eu hamlinellu yn yr is-adrannau canlynol:

5.1 Llety

Mae mwyafrif llethol o ôl-raddedigion o blaid byw gydag ôl-raddedigion eraill [1]. Mae yno hefyd resymau penodol pam fod llety ôl-radd o fudd i ôl-raddedigion a myfyrwyr gradd. Y pwysicaf o'r rhain yw'r ymdeimlad o gymuned gydag ôl-raddedigion yn byw o fewn cyrraedd i'w gilydd. Yn aml mae gan ôl-raddedigion a myfyrwyr gradd wahanol ddiddordebau a felly maent yn hoffi bod ar wahan. Mae yno hefyd yr elfen o fyw trwy gydol y flwyddyn; fel arall mae'n bosibl y caiff ôl-raddedigion eu symud i leoliad arall yn ystod y gwyliau, ar ôl i'r myfyrwyr gradd adael am yr haf. Mae hefyd yn angenrheidiol nodi na ddylai cynadleddau a gweithgareddau preswyl eraill ymyrryd â llety ôl-raddedigion yn ystod cyfnodau gwyliau.

5.2 Cyfleusterau Cymdeithasol

Dylai unrhyw gyfleusterau sy'n arbennig ar gyfer ôl-raddedigion gyfathrebu a hyrwyddo gweithgareddau cymdeithasol eraill megis clybiau, cymdeithasu a digwyddiadau a gaiff eu trefnu ar gyfer myfyrwyr. Bydd hyn o gymorth i annog ôl-raddedigion yn gyffredinol i fanteisio ar yr hyn sydd ar gael iddynt os ydynt yn dymuno gwneud hynny.


5.3 Cefnogaeth i Astudio

Dylai pob cyfleusterau cymorth i astudio, gan gynnwys llyfrgelloedd ac adnoddau technoleg gwybodaeth, fod ar gael i ôl-raddedigion o fewn amser tymor/semester ac yn ystod y gwyliau gydag oriau agor priodol. Hefyd yn ystod y tymor/semester, ni ddylai cyfleusterau o'r fath gael eu gor-ddefnyddio gan ddosbarthiadau a gweithgareddau eraill sydd ar yr amserlen. Mewn rhai achosion, efallai y byddai'n fanteisiol cadw rhai adnoddau cymorth i astudio at ddefnyd ôl-raddedigion yn unig.

5.4 Cefnogaeth Fugeiliol

Dylai cyfleusterau cefnogaeth fugeiliol, gan gynnwys cynghori, cyngor i fyfyrwyr a gofal iechyd, fod ar gael trwy gydol y flwyddyn, ac os oes angen unrhyw drefniadau arbennig yn ystod y gwyliau, dylid hysbysu ôl-raddedigion o'r trefniadau hynny.

5.5 Trefniadau Derbyn

Yn gyffredinol, bydd myfyrwyr ôl-radd yn dechrau eu cyrsiau neu raglenni ymchwil ar adegau gwahanol i fyfyrwyr gradd, felly byddant yn wynebu gwahanol drefniadau derbyn, os oes rhai yn bodoli. Dylai pob myfyriwr ôl-radd gael rhaglen groesawu wedi ei strwythuro, sy'n anodd i'w drefnu ar yr un adeg â gweithgareddau derbyn myfyrwyr gradd. Buasem felly'n argymell fod sefydliadau'n sicrhau fod pobl ac adnodau ar gael ar gyfer derbyn ôl-raddedigion.

5.6 Hyfforddiant Sgiliau Cyffredinol

Mae anghenion ôl-raddedigion o ran sgiliau a datblygiad personol yn wahanol mewn sawl ffordd. Bydd ôl-raddedigion ymchwil angen sgiliau penodol gan gynnwys adolygu llenyddiaeth, dulliau ymchwil a 'sgrifennu traethawd estynedig. Mae'n bosibl y bydd ôl-raddedigion sy'n cael eu haddysgu yn ymgymryd â chyrsiau sy'n gofyn am sgiliau penodol nad oedd yn berthnasol ar lefel gradd. Ynghyd â hyn, bydd gan nifer o ôl-raddedigion brofiad proffesiynol, sy'n eu galluogi i nodi sgiliau maent angen eu gwella. Mae'n bosibl y bydd angen newid y ffordd y caiff cyrsiau fel y rhain eu dysgu fel y gall ôl-raddedigion feithrin sgiliau o'r fath yn y cyd-destun cywir.

5.7 Cyfleusterau Cyfadrannol

Bydd gan sefydliadau mawrion gyfleusterau canolog ar gyfer ôl-raddedigion, er fod yno achos cryf dros ddarparu cyfleusterau ychwanegol ar lefel adrannol [2] er mwyn integreiddio ôl-raddedigion ar lefel leol. Gwneir hyn fel arfer ar ffurf 'stafell gyffredin sy'n agored i ôl-raddedigion ymchwil a'r rheiny sy'n cael eu haddysgu. Mae hyn o fantais arbennig mewn adrannau mwy lle nad oes yno lawer o gyfle i ôl-raddedigion gyfarfod â'i gilydd.

5.8 Cyfleusterau yn ystod y Gwyliau

Dylid hefyd ystyried cyfleusterau megis arlwyo, golchi dillad, a siopa; dylai'r rhain fod yn agored ar adegau cyfleus yn ystod y gwyliau at ddefnydd ôl-raddedigion.

6. Strwythurau Cynrychioli

Mae Pwyllgor Cenedlaethol yr Ôl-Raddedgion yn argymell y dylai fod gan ôl-raddedigion y cyfle i gynrychioli eu buddiannau fel ôl-raddedigion [3]. Bydd unrhyw gyfleusterau sy'n arbennig ar eu cyfer yn sail defnyddiol ar gyfer cyfathrebu ag ôl-raddedigion ymhlith eu cyfoedion. Fel y soniwyd eisoes, mae yno bosibilrwydd o gael corff cynrychioli ôl-raddedigion sy'n gwbl hunan-reolus neu is-gorff o fewn i gorff cynrychioli myfyrwyr sydd ar y cyfan yn gweithio tu allan i'r corff cynrychioli ei hun. Mewn amgylchiadau o'r fath, mae'n hanfodol bwysig fod yno berthynas wedi ei diffinio gyda chorff cynrychioli'r myfyrwyr er mwyn caniatáu cydweithredu pan fo angen hynny ar gyfer prosiectau. Mae yno nifer o anawsterau ynghlwm mewn cynyddu cyfranogiad ôl-raddedigion mewn cyrff cynrychioli myfyrwyr, gan fod cymdeithasau ôl-radd yn aml yn cael eu rhedeg yn wirfoddol a'r rheini sy'n eu rhedeg dan bwysedd aruthrol o'u hastudiaethau a'u hymchwil. Nid yw hyn yn eu galluogi i hyrwyddo cynrychiolaeth ôl-raddedigion a chynyddu cyfranogiad; maent felly mewn cylch dieflig.

Mae yno dri model o gynrychiolaeth a all fod o gymorth i dorri'r cylch dieflig yma, y gall sefydliadau efallai eu hystyried:

  1. Corff cynrychioli yn gweithio allan o ganolfan sy'n arbennig ar gyfer ôl-raddedigion gyda chefnogaeth staff gweinyddol i leihau pwysedd gwaith. Mae angen i ganolfan o'r fath fod mewn lleoliad hygyrch i ôl-raddedigion fel y gallant ddefnyddio'r cyfleusterau a chyfathrebu gyda'r swyddogion sy'n eu cynrychioli. Caiff y swyddogion ôl-radd eu hethol gan gorff o ôl-raddedigion o fewn i'r corff cynrychioli, a all fod yn hunan-reolus neu yn is-gorff o gorff cynrychioli'r myfyrwyr. Yn y naill achos a'r llall, bydd corff yr ôl-raddedigion, ar y cyfan, ar wahan ac wedi ei drefnu ar gyfer ôl-raddedigion.
  2. Gellid sefydlu corff cyffelyb i'r uchod, ond byddai'n cyflogi swyddog ôl-radd sabathol rhan-amser neu lawn-amser, fel bod ganddynt yr amser i weithio dros ôl-raddedigion.
  3. Pwyllgor yn gweithio o fewn i gorff cynrychioli'r myfyrwyr dan gadeiryddiaeth swyddog ôl-radd. Gall y swyddog ôl-radd fod yn swyddog sabathol llawn-amser.

Mae sefydliadau sydd â nifer fawr o ôl-raddedigion yn debygol o'i chael yn bosibl i weithredu un o'r modelau hyn. Bydd hyn yn dibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael a sut mae cymuned yr ôl-raddedigion yn gweithredu o fewn i'r sefydliad. Mae angen holi faint o fudd fyddai yno o gael swyddog ôl-radd sabathol. Mae Pwyllgor Cenedlaethol yr Ôl-Raddedigion yn cydnabod manteision swydd o'r fath [1] [3], er fod angen ystyried yn ofalus sut y caiff ei defnyddio, ynghyd â lleoliad y swydd. Ymhlith y ffactorau allweddol mae; gwneud y swydd yn boblogaidd er mwyn ethol ymgeiswyr priodol; caniatáu i'r swydd weithio'n effeithlon o fewn i'r agenda ôl-radd; a chael perthynas briodol gyda swyddogion sabathol eraill. Ychydig iawn o swyddogion ôl-radd sabathol sy'n bodioli ar hyn o bryd, ond wrth i'r niferoedd gynyddu, mae yno gyfle i sefydlu canllawiau manwl ar gyfer y swydd.

7. Ymestyn i fyfyrwyr rhan-amser

Gellir cyfeirio'r rhan fwyaf o'r canllawiau hyn tuag at ôl-raddedigion llawn-amser, ac ar y cyfan, mae'r materion dan sylw yn perthyn yn benodol iddynt hwy. Serch hynny, mae yno rai meysydd sy'n perthyn i ôl-raddedigion rhan-amser. 'Rydym eisoes wedi cyfeirio at y ffaith fod ôl-raddedigion rhan-amser yn llai tebygol o fod angen cyfleusterau sefydliannol gan y byddant yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn rhywle arall.

Er nad oes yno gymaint o alw gan fyfyrwyr rhan-amser am gyfleusterau, mae yno'n dal i fod angen i ddarparu cyfleusterau o fewn i'r oriau maent yn bresennol yn y sefydliad pe byddent eu hangen. Byddai hyn hefyd o gymorth i roi i ôl-raddedigion ymdeimlad o hunaniaeth o fewn i'r sefydliad a modd o sicrhau fod unrhyw gyfleusterau maent eu hangen yn hygyrch iddynt. Yn fwy na dim arall, bydd yno well lefel o gyfathrebu fel y gellir cynnwys myfyrwyr ôl-radd mewn cynrychiolaeth, cymorth ar gyfer astudio a gweithgareddau cymdeithasol lle bo hynny'n briodol. Mae hefyd yn hanfodol bwysig fod y rhyngrwyd a chyfleusterau cyfathrebu eraill ar gael ar gyfer ôl-raddedigion o'r fath. Bydd ôl-raddedigion rhan-amser hefyd angen trefniadau teithio, parcio a.y.b. ynghyd â diogeledd personol ar gyfer y rheiny sy'n mynychu cyrsiau min-nos. Bydd hyn eto'n gyfle i ddatblygu canllawiau pellach ar gyfer mynd i'r afael ag angenion penodol ôl-raddedigion rhan-amser yn gyffredinol.

8. Cyfeirnodau

  1. T. Brown, "Providing for the Postgraduate Market", 2003, National Postgraduate Committee, ISBN 1-899997-09-1.
  2. "Guidelines on Accommodation and Facilities for Postgraduate Research", 1995, National Postgraduate Committee, ISBN 1-899997-04-0.
  3. "NPC Resource Folder", 2001, National Postgraduate Committee, ISBN 1-899997-07-5.