PCÔ-R Cymru

pco-r-long

Croeso i Bwyllgor Cenedlaethol Ôl-Raddedigion (PCÔR) Cymru. Cynlluniwyd y safwe hon i gasglu at ei gilydd yr adnoddau hynny ar safwe PCÔR sy'n perthyn yn benodol i weithgareddau sy'n effeithio ar ôl-raddedigion yng Nghymru. Ynghyd â hyn, mae hefyd yn rhoi crynodeb o'r prif feysydd mae PCÔR Cymru yn canolbwyntio arnynt, ar wahan i ddatblygu cefnogaeth a chynrychiolaeth ôl-radd yng Nghymru.

Y Cynulliad Cenedlaethol

Mae cryn lawer o'n gwaith eleni wedi cael ei ganolbwyntio ar lobïo'r Cynulliad Cenedlaethol, www.wales.gov.uk, gyda chymorth UCMC. Ni roddwyd digon o sylw i ôl-raddedigion mewn amryw o achosion yn nhermau cyllido, polisi ar ragoriaeth addysgu a pholisïau eraill mewn addysg uwch nad ydynt yn gyfrifoldeb i'r Adran er Cyflogaeth a Sgiliau, sydd â'i bencadlys yn Lloegr. Mae lobïo diweddar wedi cynnwys deisebau i'r Cynulliad ynglyn â'r ffaith nad yw Grantiau Dysgu'r Cynulliad ar gael i ôl-raddedigion.

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Gall ceisiadau am ymgynghori ac ymholiadau eraill hefyd ddod oddi wrth Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), www.hefcw.ac.uk, lle bydd PCÔR Cymru yn ymateb fel bo'r angen. Ar hyn o bryd, mae PCÔR Cymru yn awyddus i sicrhau y bydd CCAUC yn ystyried yr argymhellion a wnaethpwyd gan Roberts ar gyfer hyfforddiant myfyrwyr ymchwil ôl-radd, a hefyd gwella safonau mewn rhaglenni gradd ymchwil, lle caiff rheolau gweithredu'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA) ar gyfer graddau ymchwil eu diweddaru.

Graddedigion De Orllewin Lloegr a Chymru

Mae UK GRAD, www.grad.ac.uk yn gorff sy'n gweithio ar y ddarpariaeth o hyfforddiant ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-radd. Ar hyn o bryd mae canolfannau rhanbarthol wedi cael eu sefydlu i gynorthwyo sefydliadau mewn hyfforddi myfyrwyr ymchwil ôl-radd a hefyd gyda threfnu unrhyw gynlluniau cydweithredol o fewn i'r rhanbarth. Golyga hyn gynrychiolaeth a mewnbwn gan fyfyrwyr ymchwil ôl-radd yn y rhanbarth, a fydd yn gyfle pwysig i PCÔR Cymru.

pn Cymru / Wales

Mae'r diweddaraf ynglyn â'n gweithgareddau yng Nghymru i'w weld yn ein Cylchlythyr Cymru, pn Wales.

Cyhoeddiadau

Mae PCÔR Cymru wedi cynhrychu llyfryn ar gyfer cyrff cynrychioli myfyrwyr, sy'n cynnwys cyngor ar faterion sy'n perthyn yn benodol i Gymru. 'Sgrifennwyd hwn gan sylfaenydd PCÔR Cymru, David Manning yn 2001.

Cyhoeddiadau yn y Gymraeg

Mae PÔR Cymru wedi cyfieithu'r cyhoeddiadau canlynol i'r Gymraeg at eich defnydd. Mae cyhoeddiadau wrthi'n cael eu diweddaru, a chânt eu gosod ar y safwe hon er gwybodaeth i chi:

  1. Datganiad Hyrwyddo PCÔR Cymru
  2. Canllawiau ar y Ddarpariaeth o Gyfleusterau Unigryw i Ôl-Raddedigion
  3. Canllawiau ar gylch gwaith Swyddog Ôl-Radd Sabathol
  4. Siarter Gyflogaeth Ôl-Raddedigion sy'n Addysgu AUT/UCM/PCÔR
  5. Siarter Ôl-Raddedigion Cyflogedig NATFE/UCM/PCÔR

Eisiau cyfranogi?

Po fwyaf y bydd ôl-raddedigion yn cyfranogi yng ngweithgareddau PCÔR Cymru, gorau yn y byd y bydd i bawb. Mae'r drws wastad yn agored i gyfranogi ym mha bynnag ffordd y mynnwch. Am fwy o wybodaeth mae croeso i chi anfon e-bost at wales@npc.org.uk.